|

Order more fun resources|

Are you after more balloons, stickers, invites, collection boxes and posters? You can order additional materials online now.

 

Send e-invites
|

Use our fun e-invites to tell your friends about your coffee morning! 

Make more of your event in Welsh

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am fod yn rhan o Fore Coffi Mwya'r Byd.

Bydd eich penderfyniad i gynnal bore coffi a chodi arian i Macmillan yn helpu i newid bywydau cynifer o bobl. Mae dwy filiwn o bobl yn byw gyda chanser yn y DU heddiw ac mae angen gwasanaethau Macmillan yn fwy nag erioed. Felly, gallwch weld pam eleni, a ninnau'n dathlu ein canmlwyddiant, ein bod yn benderfynol o gynnal y bore coffi mwyaf erioed. A'ch help chi fydd yn gwneud hyn yn bosibl.

Yn eich pecyn, cewch bob dim sydd ei angen arnoch i gynnal digwyddiad llwyddiannus. Yn gyntaf, dyma rai camau syml i'ch helpu i fynd ati i gynllunio'r diwrnod. 

Cam 1. Dewiswch ddyddiad

Ddydd Gwener, 28 Medi yw dyddiad ein bore coffi ni, ond gallwch ddewis unrhyw ddyddiad sy'n gyfleus i chi. Eich bore coffi chi yw ef wedi'r cwbl! 

Cam 2. Dewiswch leoliad

Gallwch gynnal eich bore coffi unrhyw le. Gartref, yn y gwaith, yn yr ysgol, neu rywle yn eich cymuned leol. 

Cam 3. Dywedwch wrth bawb

Dyma beth sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Po fwyaf o bobl sy'n cael gwahoddiad, y mwyaf o bobl fydd yn ymuno â'r hwyl a'r mwyaf o arian a gaiff ei godi i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser. Defnyddiwch y gwahoddiadau a'r posteri yn y pecyn hwn i ledaenu'r neges a dechrau arni. 

Peidiwch â bod ofn gofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu i'ch helpu i drefnu'r digwyddiad. Rhowch dasg i bawb ar y diwrnod a bydd yn rhedeg fel wats.

Rhowch bosteri i fyny, anfonwch wahoddiadau a rhowch wybod i bawb dan haul fel bod eich bore coffi dan ei sang. 

Codi arian gartref

P'un a ydych yn gwahodd y teulu draw neu'n anfon neges e-bost at bawb yn eich llyfr cyfeiriadau, mae sawl ffordd o sicrhau bod eich bore coffi yn ddiddorol ac yn llwyddiannus. Bydd gweini ambell gacen cartref blasus gyda phaned o goffi yn siŵr o roi gwên ar wyneb eich gwesteion. Mae garddwest bob amser yn boblogaidd fel sy'n wir am fore coffi â thema. Efallai y byddwch hyd yn oed am droi eich bore coffi yn rhywbeth hollol wahanol. 

Ar eich marciau, barod, pobwch

Beth am gynnal cystadleuaeth bobi ac ychwanegu owns o her at y cacennau a gaiff eu gwerthu? Gofynnwch i'ch gwesteion flasu cacennau a phleidleisio dros eu ffefryn. Ai'r gacen foron neu'r bara brith fydd yn dod i'r brig?  

Parti pincio

Trefnwch brynhawn neu noson lle y gallwch chi a'ch ffrindiau sbwylio'ch hun. Gwisgwch y masgiau wyneb, paentiwch eich ewinedd a mwynhewch sba troed. Gallwch werthu cacennau cwpan a choctêl neu ddau i godi gwên ac arian. 

Codi arian yn y gwaith 

P'un ai dim ond chi a rhai o'ch cydweithwyr sy'n dod at eich gilydd neu'r sefydliad cyfan, mae llawer o ffyrdd o sicrhau bod eich bore coffi yn llwyddo yn y gwaith. Rhowch eich posteri sy'n gwahodd pobl i fyny ar bob llawr a chofiwch - nid oes rhaid darparu coffi o gwbl. Dyma rai syniadau eraill i'ch rhoi chi ar ben ffordd. 

Gwyliau da

Gallai eich rheolwr fod yn yfed coffi o fwg 'Rheolwr Gorau'r Byd' os gallwch ei ddarbwyllo i roi diwrnod ychwanegol o wyliau fel un o wobrau'r bore coffi. Gofynnwch i'ch cydweithwyr dalu punt neu fwy i gymryd rhan, a thynnwch enw'r enillydd allan o het ar y diwrnod. 

Diwrnod gwisgo jîns

Os yw pawb yn barod i gyfrannu punt am gael gwisgo jîns, faint yn fwy y byddent yn barod i'w gyfrannu am gael gwisgo crys hoff dîm, neu hyd yn oed wisg ffansi? 

Codi arian yn yr ysgol 

Athrawon, disgyblion, rhieni - gall unrhyw un drefnu bore coffi yn yr ysgol. Mae digonedd o ffyrdd o gael pobl ifanc o bob oed i ymuno â'r hwyl a chodi arian. 

Mynd yn wyrdd

Trefnwch ddiwrnod dim gwisg ysgol gyda phawb yn gwisgo'r lliw gwyrdd. Gofynnwch i bob un o'ch disgyblion dalu £1 i wisgo rhywbeth gwyrdd a bydd yr arian yn llifo i mewn. Gallech hyd yn oed drefnu diwrnod gwisg ffansi â thema gwyrdd ... oes unrhyw un am wisgo lan fel Bop neu Shrek am y diwrnod?  

Bwyd di-ben-draw

Beth am werthu byrbrydau yn neuadd yr ysgol yn ystod amser egwyl neu amser cinio ? Gall disgyblion ddod â danteithion iach i mewn a gobeithio codi digon i arian i Macmillan i allu profi eu sgiliau mathemategol hefyd. 

Cân i Macmillan

Beth am drefnu cystadleuaeth brwydr y bandiau ar ôl ysgol neu gyngerdd i'r côr? Beth bynnag yw dawn gerddorol eich ysgol, dathlwch hi a chodi arian i Macmillan drwy werthu tocynnau wrth y drws. 

Codi arian yn eich cymuned 

Mae bore coffi yn addas i bobman. Gallai fod mewn caffi. Neu yn y parc. Neu beth am y dafarn leol, bwyty neu'r ganolfan gymunedol? Y peth gorau am ddefnyddio man lleol yw bod y gymuned gyfan yn gallu cymryd rhan (ond cofiwch drefnu lleoliad yn gynnar rhag ofn na fydd dim unman ar ôl).  

Ocsiwn a noddir gan siopau

Rhowch y posteri i fyny ar hysbysfyrddau ac mewn ffenestri siop lleol i hysbysebu eich bore coffi. A beth am ofyn i'r busnesau gyfrannu cynhyrchion a gwasanaethau ar yr un pryd a all gael eu gwerthu mewn ocsiwn yn y digwyddiad? Tarwch fargen! 

Llygaid i lawr

Os yw neuadd leol yn fodlon i chi ei defnyddio am ddim am noson, beth am gynnal gêm fawr o bingo? Gall yr hen a'r ifanc fwynhau gyda'i gilydd. Ac wrth gwrs, gall yr arian a gesglir o godi tâl am chwarae fynd tuag at gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser. 

Cael hwyl, cadw'n ddiogel  

Rydym am i chi gael hwyl wrth godi arian... ac rydym hefyd am eich helpu i gadw'n ddiogel ac o fewn y gyfraith. Peidiwch â phoeni, synnwyr cyffredin yw hi gan amlaf, ond dyma rai pwyntiau i dawelu'ch meddwl: 

Iechyd a diogelwch

Dilynwch gyngor proffesiynol gwneuthurwyr cyfarpar a'r staff sy'n goruchwylio'r cyfleusterau a ddefnyddir - dim berwi wyau yn y tegell na thostio'r cyllyll a ffyrc. A chofiwch, ni all Macmillan dderbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod neu anaf a achosir gennych neu unrhyw un arall o ganlyniad i gymryd rhan mewn digwyddiad codi arian. 

Hylendid bwyd

Gyda bwyd, mae bob amser berygl y gallai rhywun ddioddef poen bol. Felly, gwnewch yn siŵr fod pawb yn dilyn y rheolau iechyd a diogelwch sylfaenol ar gyfer paratoi, storio, arddangos a choginio bwyd.

 

 

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ers i mi gael canser, rydym wedi trefnu bore coffi gartref ar y dydd Sul olaf ym mis Medi. Mae'n ddiwrnod lle y gall pawb ymuno â ni. bgblockquoteend
Sylvia Macfarlane